Jeremiah 51

Barnu Babilonia

1Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Dw i'n mynd i ddod â corwynt dinistriol yn erbyn Babilon,
ac yn erbyn y bobl sy'n byw yn Babilonia.
51:1 Babilonia Hebraeg,  Leb-Camai (“Calon y rhai sy'n codi yn fy erbyn i”). Mwysair am bobl Babilon. Roedd y gair yn cael ei lunio drwy ddefnyddio llythyren olaf yr wyddor yn lle'r llythyren gyntaf, ac yn y blaen.

2Bydda i'n anfon pobl estron i'w nithio;
bydd fel gwynt yn chwythu'r us i ffwrdd.
Bydd y wlad yn cael ei gadael yn wag.
Byddan nhw'n ymosod o bob cyfeiriad
ar y diwrnod hwnnw pan fydd pethau'n ddrwg arni.
3Peidiwch rhoi cyfle i'r bwasaethwr roi llinyn ar ei fwa;
nac amser iddo roi ei arfwisg amdano.
Lladdwch y bechgyn ifanc i gyd!
Dinistriwch y fyddin yn llwyr!”
4Bydd pobl Babilon yn syrthio'n farw,
wedi eu hanafu ar strydoedd y ddinas.
5Dydy Duw, yr Arglwydd holl-bwerus,
ddim wedi troi cefn ar Israel a Jwda.
Mae gwlad Babilonia yn euog
o bechu yn erbyn Un sanctaidd Israel!
6Ffowch o ganol Babilon!
Rhedwch am eich bywydau bawb!
Does dim rhaid i chi ddiodde am ei bod hi'n cael ei chosbi.
Mae'r amser wedi dod i'r Arglwydd dalu'n ôl iddi.
Bydd yn rhoi iddi beth mae'n ei haeddu!
7Roedd Babilon fel cwpan aur yn llaw'r Arglwydd.
Roedd wedi gwneud y byd i gyd yn feddw.
Roedd gwledydd wedi yfed y gwin ohoni,
ac wedi eu gyrru'n wallgof.
8Ond yn sydyn mae Babilon yn mynd i syrthio a dryllio.
“Udwch drosti!
Dewch ag eli i wella'i briwiau!
Falle y bydd hi'n cael ei hiacháu!
9‘Bydden ni wedi ceisio helpu Babilon,
ond doedd dim modd ei helpu.
Gadewch i ni fynd adre i'n gwledydd ein hunain.
Mae'r farn sy'n dod arni'n anferthol!
Mae fel pentwr enfawr sy'n ymestyn i'r entrychion,
ac yn codi i'r cymylau!’”
Pobl Israel a Jwda:
10“Mae'r Arglwydd wedi achub ein cam ni.
Dewch! Gadewch i ni fynd i ddweud wrth Seion
beth mae'r Arglwydd ein Duw wedi ei wneud.”
Arweinwyr byddin Media:
11“Rhowch fin ar y saethau!
Llanwch eich cewyll!”

(Mae'r Arglwydd yn gwneud i frenhinoedd Media
51:11 brenhinoedd Media Teyrnasoedd bach oedd yn rhan o Ymerodraeth Media.
godi yn erbyn Babilon. Mae e'n bwriadu dinistrio Babilon. Dyna sut mae'r Arglwydd yn mynd i ddial arnyn nhw. Mae'n mynd i ddial arnyn nhw am beth wnaethon nhw i'w deml e.)

12“Rhowch yr arwydd i ymosod
ar waliau Babilon!
Dewch â mwy o filwyr!
Gosodwch wylwyr o'i chwmpas!
Paratowch grwpiau i ymosod arni!”
Mae'r Arglwydd yn mynd i wneud
beth mae wedi ei gynllunio yn erbyn pobl Babilon.
13“Ti'n byw yng nghanol yr afonydd a'r camlesi.
Rwyt wedi casglu cymaint o drysorau.
Ond mae dy ddiwedd wedi dod;
mae edau dy fywyd ar fin cael ei dorri!”
14Mae'r Arglwydd holl-bwerus wedi addo ar lw,
“Dw i'n mynd i lenwi'r wlad â milwyr y gelyn.
Byddan nhw fel haid o locustiaid ym mhobman.
Byddan nhw'n gweiddi'n llawen
am eu bod wedi ennill y frwydr.”

Emyn o fawl i Dduw

(Jeremeia 10:12-16)
15Yr Arglwydd ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear.
Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb,
a lledu'r awyr trwy ei ddeall.
16Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu.
Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel.
Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw.
Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.
17Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd!
Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'i gwnaeth nhw.
Duwiau ffals ydy'r delwau;
does dim bywyd ynddyn nhw.
18Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw!
Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio.
19Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw.
Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth,
ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo.
Yr Arglwydd holl-bwerus ydy ei enw!

Pastwn rhyfel yr Arglwydd

20“Ti ydy fy mhastwn rhyfel i;
yr arf dw i'n ei ddefnyddio yn y frwydr.
Dw i wedi dryllio gwledydd gyda ti,
a dinistrio teyrnasoedd gyda ti.
21Dw i wedi taro ceffylau a'u marchogion gyda ti;
cerbydau rhyfel a'r milwyr sy'n eu gyrru.
22Dw i wedi taro dynion a merched;
dynion hŷn, bechgyn a merched ifanc.
23Dw i wedi taro bugeiliaid a'u preiddiau;
ffermwyr a'r ychen maen nhw'n aredig gyda nhw.
Dw i wedi taro llywodraethwyr a swyddogion gyda ti.

Cosbi Babilon

24“Dw i'n mynd i dalu'n ôl i Babilon a phawb sy'n byw yn Babilonia am yr holl bethau drwg wnaethon nhw yn Seion o flaen eich llygaid chi.”


—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
25“Dw i yn dy erbyn di, Babilon!” meddai'r Arglwydd.
“Ti ydy'r llosgfynydd sy'n dinistrio'r byd i gyd.
Dw i'n mynd i dy daro di,
a dy rolio di i lawr oddi ar y clogwyni.
Byddi fel llosgfynydd mud.
26Fydd neb yn defnyddio carreg ohonot ti
fel maen congl na charreg sylfaen.
Byddi'n adfeilion am byth.”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
27“Rhowch arwydd clir a chwythu'r corn hwrdd
51:27 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”

i alw'r gwledydd i ryfel yn erbyn Babilon –
Ararat, Minni ac Ashcenas.
51:27 Ararat, Minni, ac Ashcenas Teyrnasoedd i'r gogledd o Babilon oedd yn rhan o Ymerodraeth y Mediaid.

Penodwch gadfridog i arwain yr ymosodiad.
Dewch â cheffylau rhyfel fel haid o locustiaid.
28Paratowch wledydd i ymladd yn ei herbyn hi –
brenhinoedd Media, ei llywodraethwyr a'i swyddogion,
a'r gwledydd sy'n cael eu rheoli ganddi.”
29Mae'r ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen,
am fod bwriadau'r Arglwydd yn mynd i gael eu cyflawni.
Mae'n mynd i ddinistrio gwlad Babilon yn llwyr,
a fydd neb yn byw yno.
30Bydd milwyr Babilon yn stopio ymladd.
Byddan nhw'n cuddio yn eu caerau.
Fydd ganddyn nhw ddim nerth i gario mlaen;
byddan nhw'n wan fel merched.
Bydd eu tai yn y ddinas yn cael eu llosgi.
Bydd barrau eu giatiau wedi eu torri.
31Bydd negeswyr yn rhedeg, un ar ôl y llall,
i ddweud wrth frenin Babilon
fod y ddinas gyfan wedi cael ei dal.
32Mae'r rhydau, lle gallai pobl ddianc, wedi eu cymryd.
Mae'r corsydd brwyn, lle gallai pobl guddio, wedi eu llosgi.
Mae'r fyddin mewn panig.

33Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:

“Bydd Babilon fel llawr dyrnu pan mae'n cael ei sathru.
Mae amser cynhaeaf yn dod yn fuan iawn!”

Bydd yr Arglwydd yn helpu ei bobl

Jerwsalem:
34Nebwchadnesar, brenin Babilon, wnaeth fy llarpio,
a gyrru fy mhobl i ffwrdd.
Llyncodd fi fel anghenfil,
a llenwi ei fol gyda'm cyfoeth.
Gadawodd fi fel plât gwag
wedi ei glirio'n llwyr.
35“Rhaid i Babilon dalu am y ffordd gwnaeth hi ein treisio ni!”
meddai'r bobl sy'n byw yn Seion.
“Dial ar bobl Babilonia am dywallt gwaed fy mhobl,”
meddai Jerwsalem.

36Felly, dyma beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Dw i'n mynd i weithredu ar dy ran di.
Dw i'n mynd i dalu'n ôl i'r Babiloniaid am beth wnaethon nhw i ti.
Dw i'n mynd i wagio ei chyflenwad dŵr hi,
a sychu ei ffynhonnau.
37Bydd Babilon yn bentwr o rwbel,
ac yn lle i siacaliaid fyw.
Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yno
a bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod.
Fydd neb yn byw yno.
38Byddan nhw'n rhuo fel llewod gyda'i gilydd,
ac yn chwyrnu fel rhai bach eisiau bwyd.
39Wrth awchu am fwyd bydda i'n rhoi gwledd o'u blaenau,
ac yn eu meddwi nes byddan nhw'n chwil gaib.
Byddan nhw'n llewygu, ac yn syrthio i gysgu,
a fyddan nhw byth yn deffro eto,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
40“Bydda i'n eu harwain nhw fel ŵyn i'r lladd-dy,
neu hyrddod a bychod geifr sydd i gael eu haberthu.”

Beth fydd yn digwydd i Babilon

41“Meddyliwch! Bydd Babilon
51:41 Hebraeg,  Sheshach. Mwysair am ddinas Babilon. Roedd y gair yn cael ei lunio drwy ddefnyddio llythyren olaf yr wyddor yn lle'r llythyren gyntaf, ac yn y blaen.
yn cael ei dal!
Bydd y ddinas mae'r byd yn ei chanmol
yn cael ei chymryd!
Bydd beth fydd yn digwydd i Babilon
yn dychryn y gwledydd i gyd!
42Bydd y môr yn ysgubo drosti.
Bydd tonnau gwyllt yn ei gorchuddio hi.
43Bydd beth fydd yn digwydd i'w threfi yn creu dychryn.
Bydd yn troi'n dir sych anial –
tir ble does neb yn byw
ac heb bobl yn pasio trwyddo.
44Dw i'n mynd i gosbi'r duw Bel yn Babilon.
Bydda i'n gwneud iddo chwydu beth mae wedi ei lyncu.
Fydd y gwledydd ddim yn llifo ato ddim mwy.
Bydd waliau Babilon yn syrthio!
45Dewch allan ohoni, fy mhobl!
Rhedwch am eich bywydau, bob un ohonoch chi!
A dianc oddi wrth lid ffyrnig yr Arglwydd!
46Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn
pan glywch y si'n mynd ar led drwy'r wlad.
Bydd un stori'n mynd o gwmpas un flwyddyn,
ac un arall y flwyddyn wedyn.
Bydd trais ofnadwy yn y wlad,
wrth i lywodraethwyr ymladd yn erbyn ei gilydd.
47Mae'r amser yn dod
pan fydda i'n cosbi eilun-dduwiau Babilon.
Bydd y wlad i gyd yn cael ei chywilyddio,
a bydd pobl yn syrthio'n farw ym mhobman.
48Bydd y nefoedd a'r ddaear a phopeth ynddyn nhw
yn canu'n llawen am beth fydd yn digwydd i Babilon.
Bydd byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd i'w dinistrio nhw,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
49“Rhaid i Babilon syrthio, am ei bod wedi lladd cymaint o bobl Israel,
ac am ei bod wedi lladd cymaint o bobl drwy'r byd i gyd.”

Neges Duw i bobl Israel yn Babilonia

50Chi bobl wnaeth lwyddo i ddianc
rhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon,
ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran!
Cofiwch yr Arglwydd yn y wlad bell.
Meddyliwch am Jerwsalem.
Y bobl:
51“Mae gynnon ni gywilydd;
dŷn ni wedi cael ein sarhau.
Mae'r gwarth i'w weld ar ein hwynebau.
Aeth paganiaid i mewn
i'r lleoedd sanctaidd yn nheml yr Arglwydd.” f
Yr Arglwydd:
52“Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r Arglwydd,
“pan fydda i'n cosbi eu heilun-dduwiau nhw,
a bydd pobl wedi eu hanafu yn griddfan mewn poen
drwy'r wlad i gyd.
53Hyd yn oed petai waliau Babilon yn cyrraedd i'r awyr,
a'i chaerau'n anhygoel o gryfion,
byddwn i'n anfon byddin i'w dinistrio hi,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

Diwedd Babilon

54Gwrandwch! – pobl yn gweiddi yn Babilon!
Sŵn dinistr ofnadwy'n dod o wlad Babilonia!
55Mae'r Arglwydd yn mynd i ddinistrio Babilon.
Mae e'n mynd i roi taw ar ei thwrw!
Bydd sŵn y gelyn fel sŵn tonnau'n rhuo –
byddin a'i sŵn yn fyddarol.
56Ydy, mae'r gelyn sy'n dinistrio'n ymosod!
Bydd milwyr Babilon yn cael eu dal,
a'i bwâu yn cael eu torri.
Mae'r Arglwydd yn Dduw sy'n cosbi.
Bydd yn talu'n ôl yn llawn iddyn nhw!
57“Bydda i'n meddwi ei swyddogion a'i gwŷr doeth,
ei llywodraethwyr, ei phenaethiaid a'i milwyr.
Byddan nhw'n syrthio i gysgu am byth.
Fyddan nhw ddim yn deffro eto,” meddai'r Brenin
—yr Arglwydd holl-bwerus ydy ei enw e.

58Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud:

“Bydd wal drwchus dinas Babilon yn cael ei bwrw i lawr.
Bydd ei giatiau uchel yn cael eu llosgi.
Bydd ymdrechion y bobloedd i ddim byd.
Bydd holl lafur y gwledydd yn cael ei losgi!” g

Jeremeia'n anfon y negeseuon i Babilon

59Dyna'r negeseuon oedd y proffwyd Jeremeia wedi eu rhoi i Seraia (mab Nereia ac ŵyr i Machseia)
51:59 Seraia (mab Nereia ac ŵyr i Maaseia) Brawd i Barŵch wnaeth helpu Jeremeia i ysgrifennu ei broffwydoliaethau (gw. 32:12; 36:4-10).
. Seraia oedd swyddog llety'r brenin, ac roedd wedi mynd gyda Sedeceia, brenin Jwda, i Babilon yn y bedwaredd flwyddyn i Sedeceia fel brenin.
60Roedd Jeremeia wedi ysgrifennu mewn sgrôl am y dinistr ofnadwy oedd yn mynd i ddod ar Babilon. 61Yna dwedodd wrth Seraia: “Gwna'n siŵr dy fod yn darllen y cwbl yn uchel i'r bobl ar ôl cyrraedd Babilon. 62Wedyn gweddïa, ‘O Arglwydd, rwyt ti wedi dweud yn glir dy fod ti'n mynd i ddinistrio'r lle yma. Fydd dim pobl nac anifeiliaid yn gallu byw yma. Bydd yn lle anial am byth.’ 63Ar ôl darllen y sgrôl, rhwyma hi wrth garreg a'i thaflu i ganol yr Afon Ewffrates. 64Yna gwna'r datganiad yma: ‘Fel hyn bydd Babilon yn suddo, a fydd hi byth yn codi eto, o achos yr holl ddinistr dw i'n ei anfon arni.’”

Dyma ddiwedd neges Jeremeia.
Copyright information for CYM